Mae ymddygiad camdriniol sy'n effeithio ar anifeiliaid anwes wedi'i gynnwys yng nghanllawiau newydd y Ddeddf Cam-drin Domestig
29th Ebrill 2022
Mae elusen lles cŵn fwyaf y DU, y Dogs Trust, wedi croesawu canllawiau'r Ddeddf Cam-drin Domestig sydd newydd eu rhyddhau ac sy'n cydnabod yn ffurfiol bod rheoli amgylchiadau ariannol unigolyn, gan effeithio ar eu gallu i ofalu am anifail anwes (cyfyngu ar fynediad at fwyd, gofal milfeddygol), yn gyfystyr â cham-drin economaidd, sy’n fath o gam-drin domestig.
Drwy Brosiect Rhyddid y Dogs Trust - gwasanaeth maethu anifeiliaid anwes arbenigol i oroeswyr cam-drin domestig – mae gweithwyr yr elusen yn gweld drostynt eu hunain sut mae cyflawnwyr yn defnyddio cŵn i orfodi a rheoli o fewn perthnasoedd camdriniol.
Pan gawsant eu holi gan Dogs Trust, dywedodd bron i 60% o’r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector cam-drin domestig eu bod yn gwybod am achosion lle'r oedd cam-drin ariannol wedi effeithio ar anifeiliaid anwes, neu allu perchennog i ofalu am anifail anwes. Mae cleientiaid y Prosiect Rhyddid yn disgrifio'r cythrwfl emosiynol a'r trallod o fod heb ddewis ond gwylio anifail anwes yn dioddef cyflyrau meddygol heb eu trin neu'n newynu o ddiffyg bwyd.
Yn ddyddiol, mae'r elusen hefyd yn gweld goblygiadau lles negyddol cam-drin economaidd ar y cŵn y maent yn eu maethu ar y prosiect, felly mae'n croesawu'r gydnabyddiaeth i'r rhain fel enghreifftiau o gam-drin domestig.
Dywedodd Amy Hyde, Rheolwr Prosiectau Allgymorth y Dogs Trust:
"Bob dydd rydym yn gweld effaith ddinistriol cam-drin economaidd ar y cŵn yr ydym yn eu maethu, yn ogystal â'r trallod emosiynol y mae'n ei achosi i'w perchnogion, felly rydym wrth ein bodd bod y math hwn o ymddygiad sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes wedi'i gynnwys yng nghanllawiau'r Ddeddf Cam-drin Domestig. Yn aml, bydd cyflawnwyr yn gwrthod arian ar gyfer gofal milfeddygol hanfodol neu fwyd i gŵn, drwy reoli pob gwariant.
"Ochr yn ochr â cham-drin economaidd, mi wyddom hefyd fod cŵn yn cael eu defnyddio i orfodi a rheoli'n emosiynol - mae 97% o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector yn dweud bod hyn yn wir. Gall hyn amrywio o gam-drin yr anifail yn gorfforol, hyd at fygwth niweidio, lladd neu 'gael gwared' ar y ci dro ar ôl tro.
"Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae cŵn yn cael eu defnyddio hefyd fel dulliau o reoli, gorfodi, cam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan gyflawnwyr, er mwyn rhoi llais i ddioddefwyr a'u hanifeiliaid anwes."
Dywedodd un goroeswr cam-drin domestig, a ymunodd â'r Prosiect Rhyddid:
"Byddai fy nghynbartner yn dweud nad oedd arian ar ôl ar ddiwedd y mis, ac roeddwn i'n credu hynny ar y pryd. Byddwn i'n mynd heb fwyd er mwyn i'r plant gael mynd i’w dosbarthiadau dawns, gan nad oeddwn i eisiau iddyn nhw eu colli. Doeddwn i ddim yn sylweddoli tan yn ddiweddarach fod ganddo nifer o gyfrifon banc a'i fod yn cadw arian mewn mannau eraill.
"Roeddwn i wedi mynd i deimlo mai fi oedd ar fai am nad oedd gennym arian. Byddai fy Mam yn talu am fwyd i’r cŵn fel neu mi fyddent wedi llwgu. Roeddwn yn eu bwydo ar frand drud ac roedd gen i ofn rhag iddo ddod i wybod faint roedd y bwyd yn ei gostio rhag ofn iddo gael gwared ar y cŵn neu wneud i mi brynu bwyd o ansawdd gwael iddyn nhw"
Gall anifeiliaid anwes fod yn rheswm pwysig pam nad yw pobl yn ffoi rhag cam-drin domestig, am eu bod yn ofni beth allai ddigwydd i'w hanifeiliaid annwyl pe baent yn cael eu gadael ar ôl. Nid oes llawer o lochesi sy'n barod i dderbyn anifeiliaid, felly mae'r Prosiect Rhyddid yn cynnig achubiaeth hanfodol i berchnogion cŵn i’w galluogi i ddianc rhag camdriniaeth. Mae'r gwasanaeth yn darparu cartrefi maeth i gŵn, gan dalu’r holl gostau angenrheidiol a galluogi goroeswyr i chwilio am lety diogel, gan wybod y bydd eu cŵn hefyd yn saff. Mae angen gofalwyr maeth ar y prosiect i wneud y gwaith hanfodol hwn.
Ers ei sefydlu, mae'r Prosiect Rhyddid wedi helpu tua 1,750 o bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig ac mae gofalwyr maeth y gwasanaeth wedi gofalu am dros 1,900 o gŵn.
Dywedodd Dr Nicola Sharp-Jeffs OBE, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Surviving Economic Abuse (SEA),
"Mae Surviving Economic Abuse (SEA) wedi ymgyrchu dros y Ddeddf Cam-drin Domestig (2021) i gydnabod a diffinio cam-drin economaidd. Rydym yn falch iawn o'r effaith y bydd hyn yn ei gael o ran helpu i godi ymwybyddiaeth o'r math hwn o orfodi a rheoli ac i drawsnewid yr ymateb iddo.
"Drwy gydnabod yr effeithiau negyddol y gall cam-drin economaidd ei gael ar les anifeiliaid anwes, mae'r canllawiau'n pwysleisio pwysigrwydd ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys milfeddygon a'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant anifeiliaid anwes i adnabod arwyddion cam-drin economaidd ac i sicrhau bod anifeiliaid anwes a'u perchnogion yn cael eu diogelu."