Pam gwirfoddoli gyda’r Prosiect Rhyddid?
Mae’r Prosiect Rhyddid yn wasanaeth cŵn maeth hanfodol i bobl sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Mae ein rhieni maeth yn gwybod eu bod nid yn unig yn helpu ci mewn angen ond hefyd yn helpu teulu i ddianc rhag cam-drin domestig. Mae gan faethu holl fanteision gofalu am gi heb y gost a’r ymrwymiad hirdymor.
Roedd 84% o’n gwirfoddolwyr yn dweud bod cefnogaeth tîm y Prosiect Rhyddid yn ‘ardderchog’.
Roedd 96% o’n gwirfoddolwyr yn dweud bod maethu yn rhoi boddhad iddyn nhw oherwydd eu bod yn helpu eraill.
Drwy wirfoddoli i faethu ci am 6-9 mis, bydd y perchennog yn gallu mynd i loches gyda’r tawelwch meddwl y bydd eu ci’n cael cariad a gofal gan rywun. Byddwn ni’n talu am yr holl fwyd, costau a biliau milfeddyg ac mae llwyth o fanteision gwych o fod yn rhan o’r prosiect.
Roedd 88% o wirfoddolwyr y Prosiect Rhyddid yn dweud bod maethu wedi cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant a’u hiechyd meddwl.
Roedd 86% o wirfoddolwyr y Prosiect Rhyddid yn dweud bod maethu wedi cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gŵn.
Croesawu ci maeth
Mae pob ci’n unigolyn ac mae ein tîm profiadol yn paru cŵn gyda’r gofalwyr maeth sy’n ffitio orau i’w ffordd o fyw. Ar gyfartaledd, mae’r lleoliadau maeth yn para rhwng 6-9 mis nes bydd y cŵn yn cael eu haduno â’u perchnogion. Drwy gydol y lleoliad maeth mae ein staff cyfeillgar yn rhoi cyngor a chefnogaeth a byddwn yn talu am holl gostau’r ci.

Stori gwirfoddolwr
A oes gennych awydd maethu? Gallwch glywed gan un o’n gwirfoddolwyr beth mae maethu i’r Prosiect Rhyddid yn ei olygu iddynt hwy.

Allwch chi wirfoddoli?
Mae maethu ci’n ymrwymiad mawr ond yn gyfle gwych hefyd. Dyma glywed gan rai o’n gwirfoddolwyr am sut y gweithiodd y profiad iddyn nhw.
Dod yn ofalwr maeth gyda’r Prosiect Rhyddid
Gallwch newid bywydau teuluoedd sy’n dianc rhag cam-drin domestig drwy ddod yn ofalwr maeth Prosiect Rhyddid heddiw.