Siwrne gofalwr maeth
Mae agor eich cartref a’ch calon i gi maeth yn brofiad ofnadwy o werth chweil. Nid yn unig y byddwch yn helpu ci a’i deulu i ddianc rhag cam-drin domestig, byddwch hefyd yn gallu treulio llwyth o amser gyda ffrind bach blewog.
Yn ôl ein gofalwyr maeth, mae cael ci bach dros dro’n gwella eu lles a’u hatal rhag mynd i deimlo’n unig.
Os ydych yn barod i groesawu cyfaill bach pedair-coes i’ch bywyd, byddwn yn eich tywys drwy’r camau canlynol:
Cam 1: Gwneud Cais
Er mwyn ein helpu i bennu ci maeth addas i chi, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais i ddechrau. Bydd yn rhoi trosolwg i ni o’ch profiad a’r math o gartref y gallwch ei gynnig i gi. Mae’n ein galluogi i sicrhau y gallwn barhau â’ch cais.
Cam 2: Ymweld â’r cartref
Yn dilyn eich cais cychwynnol, byddwn yn trefnu i ymweld â’ch cartref. Yn ddelfrydol, hoffem gwrdd â’ch holl deulu gyda’i gilydd gan gynnwys unrhyw anifeiliaid anwes allai fod gennych.
Mae’r ymweliad cartref yn gyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm Prosiect Rhyddid a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych a’ch helpu i benderfynu os yw’r cyfle gwirfoddoli yn iawn i chi.
Byddwn hefyd yn trafod unrhyw anifeiliaid anwes eraill sydd gennych, fel y gallwn sicrhau bod y ci maeth yn addas i chi a’ch anifeiliaid anwes. Byddwn hefyd eisiau sicrhau bod eich anifeiliaid presennol yn fodlon rhannu eu cartref gyda chi maeth.
Ar ddiwedd yr ymweliad cartref, byddwn yn gofyn i chi gofrestru ein ‘cytundeb Gofalwyr Maeth Gwirfoddol’ sy’n amlinellu eich cyfrifoldebau fel gofalwr maeth a’n rhai ni i chi fel gwirfoddolwr.
Cam 3: Geirdaon
Yn dilyn yr ymweliad cartref, byddwn yn gwirio eich geirdaon ac yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi eich bod wedi llwyddo i ddod yn ofalwr maeth.
Cam 4: Aros am gi
Unwaith rydym wedi cadarnhau eich bod wedi bod yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich ychwanegu i’n ffeil o ofalwyr maeth sydd ar gael. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall, oni bai bod eich sefyllfa’n newid. Yn yr achos hynny, gofynnwn i chi roi gwybod i ni.
Cofiwch y gall gymryd unrhyw beth o ychydig ddyddiau i sawl wythnos nes y byddwn yn dod o hyd i gi maeth addas i chi. Gall gymryd yn hirach os oes gennych eisoes blant, anifeiliaid anwes neu ofynion ychwanegol.
Mae hyn oherwydd rydym eisiau sicrhau ein bod yn rhoi’r ci iawn yn eich cartref a’ch teulu.
Cam 5: Cynnig ci
Unwaith mae ci wedi cael ei atgyfeirio i ni, ac rydym yn nodi chi fel gofalwr maeth addas iddo, byddwn yn ffonio i sicrhau eich bod ar gael ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y ci. Os hoffech fwrw ymlaen â’r lleoliad, bydd aelod o’r tîm Prosiect Rhyddid yn trefnu i gasglu’r ci a mynd ag ef yn syth i’r cartref ar amser y cytunwyd arno.
Cam 6: Lleoliad
Ar y diwrnod byddwn yn dod â’ch ci maeth, byddwn yn dod â’r holl offer sydd ei angen ar eich ci maeth ar gyfer yr arhosiad, gan gynnwys:
- Coler gyda thag ID
- Tennyn a harnais os oes angen
- Gwely a dillad gwely
- Teganau
- Bagiau gwastraff
- Bwyd a phowlenni
- Brwshys
Byddwn yn trafod yr holl wybodaeth am y ci maeth gyda chi, megis ei drefn arferol ac unrhyw hyfforddiant neu anghenion meddygol allai fod ganddo.
Barod i ymgeisio?
Mae wastad angen mwy o ofalwyr maeth arnom i ofalu am gŵn sy’n dianc rhag cam-drin domestig.