Cefnogi perchnogion cŵn sy’n dianc rhag cam-drin domestig
Helpu perchnogion cŵn i ddianc rhag cam-drin domestig
Oherwydd nad yw llochesi fel arfer yn gallu derbyn anifeiliaid anwes, mae llawer o bobl yn teimlo na fedrant adael y cartref nes y bydd gan eu hanifail anwes hefyd rywle diogel i fynd. Cynigiwn ateb i hyn drwy ddarparu gofal maeth cyfrinachol am ddim am tua 6-9 mis fel bod pobl yn gallu mynd i loches neu gartref argyfwng gyda’r tawelwch meddwl y bydd eu ci’n cael gofal a chariad.
Dod yn ofalwr maeth i gi gyda’r Prosiect Rhyddid
Mae’r gwasanaeth ar gael diolch i gymorth ac ymrwymiad gofalwyr maeth gwirfoddol sy’n caru a gofalu am y cŵn yn eu cartrefi eu hunain. Os oes gennych brofiad o ofalu am gŵn, rydych gartref y rhan fwyaf o’r dydd ac yn gallu ymrwymo i faethu am chwe mis o leiaf, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Gwasanaethau Cymorth Cam-drin Domestig
Os ydych yn gweithio i wasanaeth allweddol fel mudiad cam-drin domestig neu’r heddlu, gall y Prosiect Rhyddid hefyd helpu i ddiogelu anifeiliaid anwes y teulu. Gall gweithwyr cymorth gyfeirio pobl yn syth i’r Prosiect Rhyddid a byddwn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau gennych chi neu nhw.