Clirio eich hanes pori’r we
Mae nifer o wefannau i’ch helpu i aros yn fwy diogel ar-lein. Gwyddom ei bod yn gyffredin i gamdrinwyr dracio a monitro pa ddefnydd a wneir o’r we a thechnoleg, felly gallai’r cyngor a’r llawlyfrau canlynol gynnig gwybodaeth am sut i ddefnyddio gwefannau’n fwy diogel.
Pwyswch y botwm ‘Gadael’ i adael y wefan yn sydyn. Bydd hyn yn mynd â chi i wefan Tywydd y BBC ac ni ddaw’n ôl i’n gwefan ni os pwyswch ‘nôl’ yn y porwr. Unwaith y byddwch yn ddiogel, gallwch ddileu eich hanes pori. Os bydd eich hanes pori i gyd yn wag, gallai edrych yn amheus felly gallech ddileu dim ond y gwefannau lle’r ydych yn chwilio am gymorth ar gyfer cam-drin domestig.
Mae gan wefan Cymorth i Ferched Cymru fwy o wybodaeth am sut i aros yn ddiogel ar-lein.
Mae gan Refuge hefyd wefan neilltuol ar dechnoleg ddiogel i fynd â chi drwy’r holl opsiynau diogelwch o ran technoleg – o’ch cyfrifon ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, gosodiadau lleoliad a dyfeisiau cartref (English only).