Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig
Help at Gam-drin Domestig
Mae gwasanaethau cymorth arbenigol ar gael i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Gan ein bod yn cynnig help i gŵn, rydym yn gweithio’n glos â gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol a all gynnig cymorth, gwybodaeth i chi, yn ogystal â thrafod yr opsiynau sydd ar gael.
Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, ac nid ydych ar eich pen eich hun.
Gallwch ddilyn y dolenni isod i gysylltu â gwasanaethau cymorth.
Cymru
Gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn Cymru ar 0808 80 10 800 neu fynd i https://llyw.cymru/byw-heb-ofn
Lloegr
Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cenedlaethol ar 0808 2000 247 neu fynd i www.nationaldahelpline.org.uk. Os byddai’n well gennych sgwrsio ar-lein, gallwch hefyd gysylltu â’u gwasanaeth sgwrsio ar-lein.
Yr Alban
Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Phriodasau dan Orfod yr Alban ar 0800 027 1234, neu fynd i www.sdafmh.org.uk
Llinell Cymorth Cam-drin Domestig a Phriodasau dan Orfod yr Alban
Goroeswyr Gwrywaidd
Mae help i oroeswyr gwrywaidd ar gael drwy’r Llinell Gymorth i Ddynion ar 0808 8010327 neu yn www.mensadviceline.org.uk