Y Links Group
Mae’r Links Group yn sefydliad sy’n codi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng cam-drin pobl ac anifeiliaid drwy ddarparu cymorth, hyfforddiant a chydweithio rhwng asiantaethau. Mae’r Links Group yn cynnig hyfforddiant ar ‘y cysylltiadau', yn ogystal ag arweiniad a chymorth i’r sector milfeddygol i adnabod a rhoi gwybod am anafiadau nad ydynt yn rhai damweiniol.
Grŵp Maethu Anifeiliaid Anwes y Links Group
Mae’r Dogs Trust yn aelod o’r Links Group, ac roeddem hefyd ymhlith aelodau gwreiddiol Grŵp Maethu Anifeiliaid Anwes y Links Group. Mae hon yn gynghrair o wasanaethau maethu arbenigol ar gyfer anifeiliaid anwes goroeswyr cam-drin domestig, a ddatblygwyd i hybu safonau gwasanaeth ac arferion gorau drwy redeg gwasanaethau maethu anifeiliaid anwes i oroeswyr cam-drin domestig; i rannu gwybodaeth a phrofiad yn y maes hwn ac i ddangos tystiolaeth o’i effaith ar anifeiliaid anwes a cham-drin domestig.
Aelodau cyfredol y Links Pet Fostering Group yw Cats Protection Paws Protect, Endeavour Domestic Abuse Services a Refuge4Pets.