Camau i gyfeirio achos
Yn y Dogs Trust, rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw cŵn i'w teuluoedd. Mae ein hymchwil wedi dangos bod 95% o weithwyr proffesiynol wedi dweud na fyddai rhai goroeswyr yn fodlon gadael eu cartref heb wybod y bydd eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel.
Gan na all llawer o lochesi dderbyn anifeiliaid anwes, mae ein Prosiect Rhyddid yn ateb a fydd yn helpu eich cleient i gyrraedd diogelwch, a threfnu cartref dros dro diogel a chariadus i'w ci.
Mae'r gwasanaeth ar gael am ddim, ac mae’n gwbl gyfrinachol. Rydym yn talu costau bwyd, triniaeth filfeddygol ac unrhyw deganau a danteithion a all fod eu hangen ar y ci.
Os hoffech wneud atgyfeiriad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod. Os nad yw eich cleient yn byw yn un o'r ardaloedd hyn, ffoniwch eich tîm rhanbarthol agosaf a gallwn gynnig cymorth a helpu i’w cyfeirio.
Sut mae'r broses atgyfeirio yn gweithio:
Cam 1: Gwaith Papur Atgyfeirio
Byddwn yn gofyn i chi neu'ch cleient lenwi ffurflen i'n helpu i ddeall anghenion eu ci, ac efallai y byddwn yn gofyn am ffotograffau o'r ci.
Os yw'n bosibl, byddem yn hoffi cael sgwrs â'ch cleient i ddysgu mwy am eu ci, er mwyn bod yn y sefyllfa orau i'w paru â'r teulu maeth gorau.
Mae ein tîm cefnogol, sydd i gyd yn fenywod yn hapus bob amser i ateb unrhyw gwestiynau am y prosiect neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi neu'ch cleient.
Cam 2: Cytundeb a chadarnhau Cam-drin Domestig
Byddwn yn llunio dogfen gytundeb sy'n esbonio telerau ac amodau lleoliad maeth y ci.
Os bydd eich cleient yn penderfynu caniatáu inni faethu eu ci, byddwn yn gofyn iddynt ei lofnodi i gadarnhau eu bod yn cytuno i'r amodau hyn.
Byddwn hefyd angen e-bost neu lythyr gennych chi fel y gweithiwr cymorth, neu gan asiantaeth berthnasol, sy’n cadarnhau bod y cleient yn ffoi rhag cam-drin domestig ac yn cael cymorth i ddod o hyd i lety diogel.
Cam 3: Maethu Dros Dro
Byddwn wedyn yn paru'r ci ag un o'n gofalwyr maeth gwirfoddol ymroddgar ac yn gwneud trefniadau i’w casglu o leoliad diogel. Pan fydd y ci wedi ymuno â’r prosiect, byddwn yn gofyn i chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â gweithwyr cymorth ein cleientiaid, i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cael cymorth ac i’n diweddaru ar sut maent yn dod yn eu blaen o ran dod o hyd i lety newydd er mwyn cael dychwelyd eu ci iddynt.