Gwasanaethau maethu arbenigol eraill ar gyfer anifeiliaid anwes
Rydym yn gweithio'n agos â gwasanaethau maethu arbenigol eraill sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o'r DU ac sy'n gallu helpu i faethu cathod ac anifeiliaid anwes bach eraill. Mae'r gwasanaethau a restrir isod i gyd yn aelodau o'r Links Pet Fostering Group sy'n golygu eu bod yn gweithio’n ôl safonau y cytunwyd arnynt o ran helpu goroeswyr cam-drin domestig yn ddiogel.
I atgyfeirio anifail anwes neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaethau a restrir isod.
Cats Protection Paws Protect
Mae Paws Protect yn cynnig gwasanaeth maethu cathod cyfrinachol ac am ddim ar hyd a lled Llundain Fwyaf a'r Siroedd Cyfagos.
Endeavour Domestic Abuse Services
Mae Endeavour yn wasanaeth cam-drin domestig sydd hefyd yn rhedeg gwasanaethau maethu cyfrinachol am ddim i gathod ac anifeiliaid anwes bach yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Endeavour i sicrhau gofal i bob anifail anwes.
Refuge4Pets
Mae Refuge4Pets yn cynnig gwasanaeth maethu cyfrinachol ac am ddim i anifeiliaid anwes ar hyd a lled Dyfnaint a Chernyw. Maent hefyd yn cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar y cysylltiad rhwng cam-drin anifeiliaid anwes a cham-drin domestig.